Ardrethi annomestig
Ardrethi y mae pob busnes yn eu talu i’r awdurdodau bilio yn ardal eu hawdurdod yw ardrethi annomestig. Ers 1 Ebrill 1990, mae'r rhain wedi'u seilio ar un ardreth fusnes ledled Cymru, sef y puntdal cenedlaethol sengl a bennir gan y llywodraeth ganolog. Cymhwysir y puntdal cenedlaethol hwn i werth trethadwy pob eiddo annomestig i benderfynu ar y bil ar gyfer yr eiddo hwnnw.