Mae asesiadau o wariant safonol yn asesiadau y penderfynir arnynt yn ganolog o angen bob awdurdod i wario ar wasanaethau refeniw, ar sail cyfanswm y gwariant safonol.
Mae cymorth llywodraeth ganolog yn cynnwys grant cymorth refeniw, ardrethi annomestig a ailddosberthir, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a grantiau trosiannol ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol. Yng nghyd-destun y tabl hwn nid yw'n cynnwys grantiau nad ydynt yn benodol ar gyfer yr heddlu.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma trwy ffurflenni blynyddol a ddychwelir gan Awdurdodau Lleol Cymru.