Neidio i'r cynnwys

Aneddiadau

Setliad Cyllid Llywodraeth Leol sy’n pennu faint o’r cyllid a ddarperir ar gyfer Cymru a fydd y cael ei roi i bob awdurdod lleol. Yr enw ar y cyllid hwn yw’r Grant Cynnal Refeniw (RSG) a’r ardrethi annomestig (NDR) ac mae’n cael ei ddosbarthu ar sail fformwla sydd wedi’i seilio ar anghenion. Gweithgor ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol, o’r enw’r Is-grwp Dosbarthu, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y fformwla’n cael ei hadolygu’n gyson. Mae cyllid arall yr awdurdodau lleol yn cael ei godi ar ffurf y dreth gyngor a bennir gan bob awdurdod fel rhan o’u proses o bennu’r gyllideb bob blwyddyn. Yn ychwanegol, caiff yr awdurdodau lleol wneud cais am gyllid ychwanegol drwy raglenni grant Llywodraeth Cymru.