Gwybodaeth am iechyd cyffredinol ac afiechyd oedolion yng Nghymru yn ôl bwrdd iechyd
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir gwybodaeth drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru. Yn seiliedig ar arolwg sampl. Mae maint samplau rhai grwpiau'n gymharol fach, ac fe ddylid trin y canlyniadau â gofal. Dangosir lwfans ansicrwydd 95% a meintiau'r samplau hefyd i roi arwydd o ba mor fanwl gywir y mae'r canlyniadau. Addaswyd Arolwg Cenedlaethol 2020-21 oherwydd pandemig y coronafeirws, ac ni ddylid cymharu'r canlyniadau o 2020-21 ymlaen â chanlyniadau rhifynnau blaenorol o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gweler y dolenni i'r we.