Neidio i'r cynnwys

Iechyd cyffredinol oedolion a salwch

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am iechyd cyffredinol ac afiechyd a adroddir gan oedolion Cymru.

Addaswyd Arolwg Cenedlaethol 2020-21 oherwydd pandemig y coronafeirws (gyda chyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb a rhai newidiadau i’r cynnwys). Ni ddylid cymharu'r canlyniadau ar iechyd cyffredinol ac afiechyd o 2020-21 ymlaen â chanlyniadau rhifynnau blaenorol o Arolwg Cenedlaethol Cymru oherwydd y newid ym modd yr arolwg (ac, mewn rhai achosion, yr angen i addasu cwestiynau).