Ystadegau Treth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl Etholaethau Seneddol San Steffan ac mesur
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir preswyl, yn ôl 2024 Etholaeth y San Steffan, math o drafodiad, mesur a cyfnod treigl 4 chwarter dod i rymDiweddariad diwethaf
31 Hydref 2024Diweddariad nesaf
30 Ionawr 2025Sefydliad cyhoeddi
Awdurdod Cyllid CymruFfynhonnell 1
Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid CymruCyswllt ebost
data@acc.llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
2024 ardaloedd etholaethau seneddol San SteffanCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.
Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau preswyl hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn diwedd 21 Hydref 2024.
Ni ellir cynhyrchu ystadegau amhreswyl dibynadwy gan fod adnabod yr ardal etholaethol gywir yn dibynnu ar ddarpariaeth cod post gyfer yr eiddo a'r tir fel rhan o bob trafodiad. Gan fod tuedd gynhenid tuag at drafodiadau amhreswyl mwy yn yr achosion pan fydd codau post ar goll neu godau post annilys yn cael eu darparu, nid yw eu canlyniadau'n ddigon cyflawn nac ystyrlon i'w cyhoeddi.
Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:
- math o drafodiad: preswyl yn unig ond (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer prif gyfraddau a thrafodion cyfradd uwch)
- 2024 etholaeth y San Steffan: pob un o'r 32 etholaeth y San Steffan
- mesur: nifer y trafodiadau, treth sy'n ddyledus, gwerth yr eiddo a drethir, y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad a gwerth cyfartalog yr eiddo sy'n cael ei drethu
- blwyddyn (ariannol) y daw i rym.
Mae cyfran gymharol fach o drafodiadau preswyl sydd â’r cod post ar gyfer yr eiddo a'r eitemau tir ar goll neu'n annilys. Mae hyn yn golygu na ellir dynodi'r ardal etholaethol. Er mwyn cymharu, mae cyfansymiau’r etholaethau a ddangosir yn y set ddata hon yn ymwneud â'r trafodiadau hynny lle mae'r etholaeth yn hysbys yn unig, ac am y rheswm hwnnw ni fydd yn cyd-fynd â'r cyfanswm ar gyfer Cymru a ddangosir mewn setiau data eraill.
Mae esboniad llawn o sut y dylid dehongli'r set ddata hon, yn enwedig yng nghyd-destun trafodiadau cyfraddau uwch, i'w gweld yma: https://llyw.cymru/eglurhad-o-ystadegau-ardaloedd-lleol-awdurdod-cyllid-cymru-2022-hyd-2023-html
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenniAmlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Dangosir y data yn ôl y flwyddyn sy'n dod i ben ar Fehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth y daeth y trafodiad i rym.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu. Dangosir y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad i'r £10 agosaf, tra dangosir y gwerth cyfartalog fesul trafodiad i'r £1000 agosaf.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gall ystadegau Treth Trafodiadau Tir gael eu diwygio. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau.Mae’n anhebygol y bydd y set ddata hon (sy’n ffigurau blynyddol) yn cael ei heffeithio gan drafodiadau pellach na chyflwynwyd erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, gall y gwerthoedd ar gyfer trafodiadau presennol gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd a gall arwain at rai diwygiadau pan gaiff y data hyn eu diweddaru nesaf. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.
Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenniAllweddeiriau
Treth Trafodiadau Tir; TrethDolenni'r we
https://llyw.cymru/ystadegau-treth-trafodiadau-tirhttps://llyw.cymru/gwybodaeth-allweddol-am-ansawdd-ystadegaur-dreth-trafodiadau-tir
https://llyw.cymru/treth-trafodiadau-tir-canllaw