Ystadegau Treth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl ardal amddifadedd a dyddiad y trafodiad gwreiddiol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch, yn ôl ardal awdurdod lleol, ardal Parc Cenedlaethol, ardal etholaethau Senedd, ardal amddifadedd neu ardal adeiledig, a dyddiad dod i rymDiweddariad diwethaf
25 Ebrill 2024Diweddariad nesaf
Ebrill 2025Sefydliad cyhoeddi
Awdurdod Cyllid CymruFfynhonnell 1
Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid CymruCyswllt ebost
data@acc.llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Ardal adeiledigCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.
Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn diwedd 15 Ebrill 2024.
Mae'r set ddata'n canolbwyntio ar drafodiadau preswyl sy’n gymwys i dderbyn ad-daliad cyfradd uwch ac mae'n cynnwys nifer o drafodiadau sy'n gymwys i dderbyn ad-daliad yn ogystal â gwerth cyfanredol yr ad-daliadau hynny, wedi'u dadansoddi yn ôl:
- naill ai'r ardal awdurdod lleol (pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru); ardal Parc Cenedlaethol (pob un o'r 3 o Parc Cenedlaethol), ardal etholaethau Senedd (pob un o'r 40 o Etholaeth y Senedd) neu ardal amddifadedd (gweler isod) y trafodiad
- chwarter a blwyddyn y daeth trafodiad gwreiddiol i rym.
Pan hawlir ad-daliad am drafodiad preswyl cyfradd uwch, diwygir y trafodiad gwreiddiol i fod yn drafodiad preswyl prif gyfradd.
Diweddarwyd safleoedd MALlC yn ddiweddar (2019). Rydym wedi defnyddio'r safleoedd MALlC diweddaraf hyn yn y datganiad hwn. Mae pob diweddariad o safleoedd MALlC wedi'i gynllunio i bara am oddeutu tair i chwe blynedd. Pan wnaethom gyhoeddi'r dadansoddiad hwn y llynedd, gwnaethom ddefnyddio safleoedd MALlC 2014.
Noder bod nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynir ar gyfer dyddiadau dod i rym diweddarach yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o’i gymharu â chyfnodau cynharach, nid oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.
Mae data ar yr amser a gymerir i hawlio ad-daliadau i'w weld yn y set ddata amgen sy'n cymharu chwarter y trafodiad gwreiddiol gyda’r chwarter y cymeradwyir yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.
Mae'r ardaloedd o amddifadedd yn rhannu Cymru'n ddeg ardal sydd â thua’r un boblogaeth, a elwir yn ddegraddau, gan ddefnyddio graddfeydd amddifadedd ar gyfer ychydig dan 2000 o ardaloedd bychain yng Nghymru (a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is), fel y’u mesurwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Degradd (neu ddegfed) 1 MALlC yw'r mwyaf difreintiedig, i lawr i ddegradd (neu ddegfed) MALlC 10, sef y lleiaf difreintiedig.
Mae esboniad llawn o sut y dylid dehongli'r set ddata hon, yn enwedig yng nghyd-destun trafodiadau cyfraddau uwch, i'w gweld yma: https://llyw.cymru/eglurhad-o-ystadegau-ardaloedd-lleol-awdurdod-cyllid-cymru-2021-hyd-2022-html
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenniAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir y data yn ôl y flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) y daeth y trafodiad i rym.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 agosaf ar gyfer y trafodiadau sy’n gymwys am ad-daliad, ac i’r £0.1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth cyfanredol yr ad-daliadau.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.
Dolenni'r we
https://llyw.cymru/ystadegau-treth-trafodiadau-tirhttps://llyw.cymru/gwybodaeth-allweddol-am-ansawdd-ystadegaur-dreth-trafodiadau-tir
https://llyw.cymru/treth-trafodiadau-tir-canllaw