Ystadegau Treth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl awdurdod lleol ac mesur
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl awdurdod lleol, math o drafodiad, mesur a blwyddyn dod i rymDiweddariad diwethaf
31 Hydref 2024Diweddariad nesaf
30 Ionawr 2025Sefydliad cyhoeddi
Awdurdod Cyllid CymruFfynhonnell 1
Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid CymruCyswllt ebost
data@acc.llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Ardaloedd awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
https://llyw.cymru/ystadegau-treth-trafodiadau-tirhttps://llyw.cymru/gwybodaeth-allweddol-am-ansawdd-ystadegaur-dreth-trafodiadau-tir
https://llyw.cymru/treth-trafodiadau-tir-canllaw
Allweddeiriau
Treth Trafodiadau Tir; TrethDisgrifiad cyffredinol
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.
Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn diwedd 21 Hydref 2024.
Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:
- y math o drafodiad: preswyl (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a chyfradd uwch), amhreswyl
- awdurdod lleol: pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru
- mesur: nifer y trafodiadau, treth sy'n ddyledus, gwerth yr eiddo a drethir, y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad a gwerth cyfartalog yr eiddo sy'n cael ei drethu
- blwyddyn y daw i rym (ariannol)
Noder mai ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig y cyflwynir gwerthoedd eiddo a gwerth eiddo cyfartalog er mwyn osgoi datgelu’n ddamweiniol fanylion sy'n ymwneud â thrafodiadau amhreswyl unigol.
Mae esboniad llawn o sut y dylid dehongli'r set ddata hon, yn enwedig yng nghyd-destun trafodiadau cyfraddau uwch, i'w gweld yma: https://llyw.cymru/eglurhad-o-ystadegau-ardaloedd-lleol-awdurdod-cyllid-cymru-2022-hyd-2023-html
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenniAmlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Dangosir y data yn ôl y flwyddyn sy'n dod i ben ar Fehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth y daeth y trafodiad i rym.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu. Dangosir y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad i'r £10 agosaf, tra dangosir y gwerth cyfartalog fesul trafodiad i'r £1000 agosaf.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gall ystadegau Treth Trafodiadau Tir gael eu diwygio. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau.Mae’n anhebygol y bydd y set ddata hon (sy’n ffigurau blynyddol) yn cael ei heffeithio gan drafodiadau pellach na chyflwynwyd erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, gall y gwerthoedd ar gyfer trafodiadau presennol gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd a gall arwain at rai diwygiadau pan gaiff y data hyn eu diweddaru nesaf. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.