Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Awdurdod Cyllid Cymru Ystadegau Treth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl ardal amddifadedd a math o drafodiad
None
MesurMesur[Hidlwyd]
Cyfnod amserDangosir y data yn ôl y cyfnod treigl o 4 chwarter pan ddaeth y trafodiad i rym.[Hidlwyd]
Measure2
[Lleihau]Math y trafodiadMath y trafodiad[Hidlo]
-
[Lleihau]Math y trafodiad 1
-
Math y trafodiad 2
[Lleihau]Ardal amddifadeddMae\'r ardaloedd hyn yn rhannu Cymru\'n ddeg o ardaloedd sydd â thua\’r un boblogaeth, a elwir yn ddegraddau, gan ddefnyddio graddfeydd amddifadedd a briodolir i ychydig llai na 2000 o ardaloedd bach yng Nghymru (a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is), fel y mesurwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).  Degradd (neu ddegfed) 1 MALlC yw\'r mwyaf difreintiedig, i lawr i ddegradd (neu ddegfed) MALlC 10, sef y lleiaf difreintiedig.[Hidlo]
-
-
Ardal amddifadedd 1
[Lleihau]PreswylCliciwch yma i ddidoliPreswyl
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliPreswyl prif gyfradd[Lleihau]Preswyl cyfraddau uwchCliciwch yma i ddidoliPreswyl cyfraddau uwch
Cliciwch yma i ddidoliRefeniw o'r brif gyfraddCliciwch yma i ddidoliRefeniw ychwanegol o'r gyfradd uwch
[Lleihau]Cyfanswm y degraddau / degfedau MALlC yng Nghymru (cofnodion sydd â dosbarthiad MALlC hysbys) Nid yw hyn yn cynnwys achosion ledled Cymru lle na ellid canfod degradd / degfed MALlC oherwydd diffyg gwybodaeth ddibynadwy am y cod post.111.629.174.0103.0214.6
Cyfanswm y degraddau / degfedau MALlC yng Nghymru (cofnodion sydd â dosbarthiad MALlC hysbys) Nid yw hyn yn cynnwys achosion ledled Cymru lle na ellid canfod degradd / degfed MALlC oherwydd diffyg gwybodaeth ddibynadwy am y cod post.Degradd / degfed MALlC 11.00.34.75.06.0
Degradd / degfed MALlC 22.10.45.05.57.5
Degradd / degfed MALlC 33.20.65.35.99.1
Degradd / degfed MALlC 44.51.05.86.811.3
Degradd / degfed MALlC 58.82.47.49.718.5
Degradd / degfed MALlC 611.23.49.012.423.6
Degradd / degfed MALlC 712.44.89.714.526.9
Degradd / degfed MALlC 817.35.69.314.932.2
Degradd / degfed MALlC 921.04.58.813.234.2
Degradd / degfed MALlC 1030.16.28.915.145.1

Metadata

Teitl

Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir preswyl, yn ôl ardal amddifadedd, math o drafodiad, mesur a blwyddyn dod i rym

Diweddariad diwethaf

25 Ebrill 2024 25 Ebrill 2024

Diweddariad nesaf

Ebrill 2025

Sefydliad cyhoeddi

Awdurdod Cyllid Cymru

Ffynhonnell 1

Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru

Cyswllt ebost

data@acc.llyw.cymru

Dynodiad

Dim

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Degfed (difreintiedig) Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau preswyl hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn diwedd 15 Ebrill 2024. Ni ellir cynhyrchu ystadegau amhreswyl dibynadwy gan fod adnabod yr ardaloedd amddifadedd cywir yn dibynnu ar ddarpariaeth cod post gyfer yr eiddo a'r tir fel rhan o bob trafodiad. Gan fod tuedd gynhenid tuag at drafodiadau amhreswyl mwy yn yr achosion pan fydd codau post ar goll neu godau post annilys yn cael eu darparu, nid yw eu canlyniadau'n ddigon cyflawn nac ystyrlon i'w cyhoeddi.

Mae'r set ddata yn cynnwys dadansoddiad yn ôl:

- y math o drafodiad: preswyl yn unig ond (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a rhai cyfradd uwch)
- Ardaloedd o amddifadedd sy’n rhannu Cymru'n ddeg o ardaloedd sydd â thua’r un boblogaeth, a elwir yn ddegraddau, gan ddefnyddio graddfeydd amddifadedd ar gyfer ychydig dan 2000 o ardaloedd bychain yng Nghymru (a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is), fel y’u mesurwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Degradd (neu ddegfed) MALlC 1 yw'r mwyaf difreintiedig, a degradd (neu ddegfed) MALlC 10 yw’r lleiaf difreintiedig.
- mesur: nifer y trafodiadau, treth sy'n ddyledus, gwerth yr eiddo a drethir, y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad a gwerth cyfartalog yr eiddo sy'n cael ei drethu
- blwyddyn y daw i rym (ariannol)

Diweddarwyd safleoedd MALlC yn ddiweddar (2019). Rydym wedi defnyddio'r safleoedd MALlC diweddaraf hyn yn y datganiad hwn. Mae pob diweddariad o safleoedd MALlC wedi'i gynllunio i bara am oddeutu tair i chwe blynedd. Pan wnaethom gyhoeddi'r dadansoddiad hwn y llynedd, gwnaethom ddefnyddio safleoedd MALlC 2014.

Ceir cyfran gymharol fach o drafodiadau preswyl pan fydd y cod post ar gyfer yr eiddo a'r eitemau tir ar goll neu'n annilys. Mae hyn yn golygu na ellir dynodi'r ardal amddifadedd. Er mwyn cymharu, mae cyfansymiau’r ardaloedd a ddangosir yn y set ddata hon yn ymwneud â'r trafodiadau hynny lle mae'r amddifadedd yn hysbys yn unig, ac am y rheswm hwnnw ni fydd yn cyd-fynd â'r cyfanswm ar gyfer Cymru a ddangosir mewn setiau data eraill.

Mae esboniad llawn o sut y dylid dehongli'r set ddata hon, yn enwedig yng nghyd-destun trafodiadau cyfraddau uwch, i'w gweld yma: https://llyw.cymru/eglurhad-o-ystadegau-ardaloedd-lleol-awdurdod-cyllid-cymru-2022-hyd-2023-html


Casgliad data a dull cyfrifo

Gweler y dolenni

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir y data yn ôl y flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) y daeth y trafodiad i rym.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu. Dangosir y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad i'r £10 agosaf, tra dangosir y gwerth cyfartalog fesul trafodiad i'r £1000 agosaf.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Gall ystadegau Treth Trafodiadau Tir gael eu diwygio. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau.

Mae’n anhebygol y bydd y set ddata hon (sy’n ffigurau blynyddol) yn cael ei heffeithio gan drafodiadau pellach na chyflwynwyd erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, gall y gwerthoedd ar gyfer trafodiadau presennol gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd a gall arwain at rai diwygiadau pan gaiff y data hyn eu diweddaru nesaf. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.

Allweddeiriau

Treth Trafodiadau Tir; Treth; Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru; MALIC

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni