Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Awdurdod Cyllid Cymru Ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a disgrifiad o’r trafodiad
None
MesurSylwer, pan roddir prydles ddibreswyl newydd, efallai y bydd elfen brynu ac elfen rhent. Mae\'r elfennau rhent yn gysyniad gwahanol, a ddangosir ar wahân, ac nid yw\'r gwerthoedd rhent wedi\'u cynnwys yn y cyfansymiau dibreswyl neu gyfanswm y cyfansymiau (sy\'n adlewyrchu\'r elfennau prynu yn unig). Fodd bynnag, mae\'r y cyfansymiau dibreswyl neu gyfanswm y cyfansymiau yn cynnwys treth sy\'n ddyledus a chyfrifiadau trafodion ar gyfer y ddwy elfen hon.[Hidlwyd]
[Lleihau]Math o drafodiadMae cyfrifiadau\'n cynnwys trafodiadau amhreswyl sydd ag elfen brynu ac elfen rent, ond er mwyn osgoi cyfrif ddwywaith, dim ond y rhai hynny sydd ag elfen rent heb elfen brynu a ychwanegir at y rhai sydd ag elfen brynu yn y cyfansymiau.  Mae\’r dreth sy\'n ddyledus yn cynnwys treth sy\'n gysylltiedig ag elfennau prynu a rhent pob trafodiad amhreswyl.  Ni ddylid cyfansymio ystadegau gwerth ar gyfer elfennau prynu a rhentu ar wahân trafodiadau amhreswyl a dim ond yr elfennau prynu sydd wedi\’u cynnwys yn y cyfansymiau a gyflwynir yma.[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Math o drafodiad 1[Hidlo]
-
[Lleihau]Math o drafodiad 2[Hidlo]
-
Math o drafodiad 3[Hidlo]
Measure2
[Lleihau]Disgrifiad y trafodiadDisgrifiad y trafodiad[Hidlo]
-
Disgrifiad y trafodiad 1
[Lleihau]Cyfnod amserDangosir y data yn ôl y mis, y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a\'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad sy\’n gymwys am ad-daliad cyfradd uwch i rym.  Pan fydd rhan o chwarteri a blynyddoedd yn cael ei dangos, caiff y rhain eu nodi gyda\'r ôl-ddodiad \'hyd yn hyn.\'[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Cyfnod amser 1
-
-
Cyfnod amser 2
[Lleihau]Pob trafodiadauCliciwch yma i ddidoliPob trafodiadau
Cliciwch yma i ddidoliTrawsgludo / Trosglwyddo perchnogaethCliciwch yma i ddidoliRhoi les newyddCliciwch yma i ddidoliAseinio les
[Ehangu]2018-19190.614.913.8219.3
[Ehangu]2019-20202.616.97.5227.0
[Ehangu]2020-21188.79.97.7206.4
[Ehangu]2021-22369.811.823.5405.2
[Ehangu]2022-23347.414.715.6377.6
[Lleihau]2023-24259.19.19.4277.6
2023-24[Ehangu]Ebrill i Mehefin 2023-2460.82.61.565.0
[Ehangu]Gorffennaf i Medi 2023-2468.41.82.272.5
[Ehangu]Hydref i Rhagfyr 2023-2471.12.83.677.5
[Lleihau]Ionawr i Mawrth 2023-2458.81.82.162.7
Ionawr i Mawrth 2023-24Ionawr 2023-2416.20.50.917.6
Chwefror 2023-2419.70.50.620.8
Mawrth 2023-2422.90.80.624.3

Metadata

Teitl

Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad, disgrifiad o’r trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym

Diweddariad diwethaf

25 Ebrill 2024 25 Ebrill 2024

Diweddariad nesaf

24 Mai 2024

Sefydliad cyhoeddi

Awdurdod Cyllid Cymru

Ffynhonnell 1

Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru

Cyswllt ebost

data@acc.llyw.cymru

Dynodiad

Dim

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan ACC erbyn diwedd 15 Ebrill 2024.

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidiodd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodion a ddaeth i rym ar ôl 10 Hydref 2022.

Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad yn ôl:
- math o drafodiad: preswyl (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a chyfradd uwch), amhreswyl
- disgrifiad o’r trafodiad: trawsgludiad / trosglwyddo perchenogaeth, caniatáu les newydd, aseinio les
- mesur: nifer y trafodiadau, treth sy'n ddyledus, gwerth yr eiddo a drethwyd
- dyddiad y daw i rym (mis, chwarter a blwyddyn)

Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw fanylion heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Felly, mae trafodiadau hyn wedi'u hepgor o bob dadansoddiadau a chânt eu crynhoi yma yn lle hynny: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Taxes-devolved-to-Wales/Land-Transaction-Tax/landtransactiontaxstatistics-tax-due-including-transactions-restricted-detail


Casgliad data a dull cyfrifo

Gweler y dolenni

Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir y data yn ôl y mis, y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad i rym. Pan fydd rhan o chwarteri a blynyddoedd yn cael ei dangos, caiff y rhain eu nodi gyda'r ôl-ddodiad "hyd yn hyn".

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.

Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.

Allweddeiriau

Treth Trafodiadau Tir; Treth

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni