Oddi 2016-17, cesglir data plant sy’n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn bellach drwy’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae hwn wedi disodli’r setiau data sy'n bodoli eisoes Plant sy’n Derbyn Gofal (SSDA903), Mabwysiadau Plant sy'n Derbyn Gofal (AD1), Cymwysterau Addysgol y rhai sy'n Gadael Gofal (OC1) a'r rhai sy'n Gadael Gofal ar eu 19eg pen-blwydd (OC3).
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno ffigurau am blant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru. Mae plant sy'n derbyn gofal yn cynnwys y rhai ar orchmynion gofal a phlant eraill y mae eu hawdurdod lleol yn darparu llety iddynt. Mae rhai plant hefyd yn rhai sy'n derbyn gofal oherwydd bod yr awdurdod lleol yn darparu llety i ddibenion gofal seibiant - nid yw'r ffigurau yn y tabl hwn yn cynnwys y plant hyn.
Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff data lefel plentyn unigol dienw eu cymryd o systemau gweinyddol awdurdodau lleol a'u dychwelyd yn electronig i'r tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio system ddiogel o drosglwyddo data ar-lein o'r enw 'Objective Connect’. Yna mae dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfres helaeth o wiriadau dilysu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn defnyddio'r codau cywir a'i bod yn gyson yn fewnol.
Dangosir y data ar 31 Mawrth ar gyfer pob blwyddyn o 2003.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Cymerwyd y camau canlynol i leihau'r risg o ddatgelu data personol heb fod eisiau: Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Pan fo llai na phump o blant mewn unrhyw grwp, mae'r union nifer wedi'i hepgor a'r symbol * wedi'i nodi yn ei le.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Adolygwyd y data ar gyfer 2003 hyd 2023 ar 28 Ionawr 2025.
Teitl
Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, yn ôl oedran a rhyw, ar 31 Mawrth