Swyddi cyflogeion mewn diwydiannau sy'n ymwneud â thwristiaeth yn ôl ardal a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Swyddi cyflogeion yn ôl diwydiant (SIC07)Diweddariad diwethaf
26 Hydref 2023Diweddariad nesaf
Hydref 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Cyflogaeth y Gofrestr Fusnes (BRES), y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Rhanbarthau Prydain FawrCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data hyn yn gyfrifiadau o swyddi sifilaidd cyflogeion mewn gwahanol grwpiau diwydiant, y telir amdanynt gan gyflogwyr sy'n rhedeg cynllun Talu Wrth Ennill a/neu sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW.Nid yw'r data ar gyfer 2011 yn gyson â'r blynyddoedd blaenorol oherwydd gwelliannau yn yr amcangyfrifon o berchnogion sy'n gweithio. Mae ONS yn bwriadu cyhoeddi data 2010 mewn ffordd sy'n gyson â 2011 ym mis Rhagfyr. Gellir cael mwy o wybodaeth ar: http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/method-quality/specific/labour-market/business-register-and-employment-survey--bres-/index.html
Nid yw pobl hunangyflogedig, lluoedd Ei Mawrhydi, gweithwyr gartref a gweision preifat yn cael eu cynnwys.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cymerir y ffigurau o'r Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (BRES) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac sydd wedi'i seilio ar SIC07. Gan fod y canlyniadau'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae'r data diwydiannau unigol yn destun mwy o amrywioldeb na'r data pob diwydiant.Mae'r data eu hunain ar gael ar y System Gwybodaeth Gweithlu Ar-lein Genedlaethol (neu NOMIS - gweler www.nomisweb.co.uk)
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2009 i 2022Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir. Mae rhai data'n cael eu celu am resymau'n ymwneud â datgelu.Ansawdd ystadegol
Mae Gwybodaeth Methodoleg Ansawdd (QMI) ar gyfer BRES ar gael ar wefan yr ONS:http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/method-quality/specific/labour-market/business-register-and-employment-survey--bres-/quality-and-methods/index.html