Mae'r gyfres arbrofol yn cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol nad ydynt mewn gwaith ac mae'n disodli nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith fel y prif ddangosydd ar gyfer nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. O fis Mai 2013 ymlaen, nid yw'r ffigurau hyn wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol. Mae data cyn 2013 yn cyfrif pob person sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â gwaith h.y. Lwfans Ceisio Gwaith. Ffiniau'r ardaloedd etholaethol a ddefnyddir yn y data yw'r rhai a ddiffinnir gan Etholaethau Seneddol diwygiedig 2010.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cyfartaleddau blynyddol yw'r data ac NID ydynt wedi'u haddasu'n dymhorol. Caiff y cyfraddau a roddir yn y set ddata hon eu mynegi fel canrannau o'r boblogaeth breswyl 16-64 oed.
Mae'r holl ddata'n cael ei dalgrynnu i'r 5 agosaf ac efallai na fydd yn ychwanegu'n union at nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, a gyhoeddwyd ar Nomis, a nifer y bobl allan o waith sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, oherwydd talgrynnu annibynnol.
Defnyddir dau fesur safonol o ddiweithdra yn ystadegau swyddogol y DU, sef nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra a mesur diweithdra'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r mesurau'n wahanol ac mae gan y naill a'r llall fanteision ac anfanteision. Mae'r cyntaf yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Gan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu ac felly gellir ei ddadgyfuno i lefelau manylder uchel iawn. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy'n ddi-waith ac nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio. Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra. Fodd bynnag, gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar sampl ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data ar gyfer Cymru. Dilynwch y ddolen we i'r arweiniad i'r ffynonellau data i gael mwy o wybodaeth.