Neidio i'r cynnwys

Hawlio budd-daliadau

Mae cyfrifiad y ceiswyr yn cynnwys y personau hynny sy’n hawlio Lwfans Chwilio am Waith a rhai hawlwyr Credyd Cynhwysol. Mae amcangyfrifon ar gael yn fisol, hyd at lefel yr awdurdod lleol ac yn ôl rhyw. Ffynhonnell ddata weinyddol yw hon a does dim cyfeiliornad samplu, ond nid yw’n cynnwys pawb sy’n ddi-waith. Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau wedi cael ei ddileu o ddatganiad farchnad lafur y Swyddfa Ystadegau Gwladol oherwydd mae’n bosibl ei fod yn rhoi darlun camarweiniol o farchnad lafur y DU.

O fis Mehefin 2015 cafodd ystadegau nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau eu dynodi fel rhai arbrofol oherwydd effaith y Credyd Cynhwysol, sydd wedi'i gynllunio fel bod angen i nifer fwy sy’n hawlio budd-daliadau edrych am waith o’i gymharu â’r Lwfans Ceisio Gwaith. Mae hyn yn golygu unwaith y bydd y Credyd Cynhwysol wedi ei gyflwyno'n llawn, mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn debygol o fod yn uwch nag y byddai fel arall o gymharu â’r Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’r effaith wedi cynyddu wrth i gyflwyno Credyd Cynhwysol symud yn ei flaen ac mae'r gyfres nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sydd wedi ei addasu yn dymhorol wedi dod yn fwy amrywiol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi data nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau ar StatsCymru. Gellir gweld y datganiad SYG llawn ar eu wefan yn y ddolen isod.