Lwfans Ceisio Gwaith yn ôl ardal teithio i'r gwaith, newidyn a blwyddyn (heb ei addasu'n dymhorol
Wedi ei archifo (Saesneg yn unig) – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn ôl ardal teithio i'r gwaith yng Nghymru (heb ei addasu'n dymhorol)Diweddariad diwethaf
5 Mawrth 2014Diweddariad nesaf
No longer updatedSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.economi@cymru.gsi.gov.ukDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Ardaloedd teithio i'r gwaithCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Defnyddir dau fesur safonol o ddiweithdra yn ystadegau swyddogol y DU, sef nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra a mesur diweithdra'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r mesurau'n wahanol ac mae gan y naill a'r llall fanteision ac anfanteision.Mae'r cyntaf yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Gan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu ac felly gellir ei ddadgyfuno i lefelau manylder uchel iawn. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy'n ddi-waith ac nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio.
Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra. Fodd bynnag, gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar sampl ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data ar gyfer Cymru.
Dilynwch y ddolen we i'r arweiniad i'r ffynonellau data i gael mwy o wybodaeth.
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data hyn yn gyfrifiadau o'r holl bersonau sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra h.y. Lwfans Ceisio Gwaith. Ffiniau'r ardaloedd teithio i'r gwaith a ddefnyddir yn y data yw'r rheiny a ddiffinnir gan ddiwygiad TTWA07.Casgliad data a dull cyfrifo
Cyfartaleddau blynyddol yw'r data ac NID ydynt wedi'u haddasu'n dymhorol. Caiff y cyfraddau a roddir yn y set ddata hon eu mynegi fel canrannau o'r boblogaeth breswyl 16-64 oed.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2005 i 2013Dolenni'r we
www.nomisweb.co.uk;http://gov.wales/statistics-and-research/economic-labour-market-statistics-guide-data-sources-useful-links/