Hawlydd seiliedig preswylydd gyfrif yn ôl blwyddyn ac ardal (heb ei addasu'n dymhorol) - YSTADEGAU ARBROFOL
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r gyfres arbrofol hon yn cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol sydd allan o waith ac mae'n disodli nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith fel y prif ddangosydd o nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau am y rheswm o fod yn ddi-waith yn bennaf.Casgliad data a dull cyfrifo
Cyfartaleddau blynyddol yw'r data ac NID ydynt wedi'u haddasu i gymryd i ystyriaeth ddiffygion parhad yn y data yn y gorffennol, er mai rhai mân yw'r rhain ers 1996. Caiff y cyfraddau a roddir yn y set ddata hon eu mynegi fel canrannau o'r boblogaeth breAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1984 i 2023Teitl
Nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau ar sail preswyliaeth yn ôl ardal (heb ei addasu'n dymhorol)Diweddariad diwethaf
1 Chwefror 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Weinyddu'r Ganolfan Byd Gwaith, yr Adran Gwaith a PhensiynauCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau arbrofolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Cyfrif nifer yr hawlwyr; DiweithdraDolenni'r we
www.nomisweb.co.uk;http://gov.wales/statistics-and-research/economic-labour-market-statistics-guide-data-sources-useful-links/
Ansawdd ystadegol
Defnyddir dau fesur safonol o ddiweithdra yn ystadegau swyddogol y DU, sef nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra a mesur diweithdra'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r mesurau'n wahanol ac mae gan y naill a'r llall fanteision ac anfanteision.Mae'r cyntaf yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Gan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu ac felly gellir ei ddadgyfuno i lefelau manylder uchel iawn. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy'n ddi-waith ac nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio.
Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra. Fodd bynnag, gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar sampl ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data ar gyfer Cymru.
Dilynwch y ddolen we i'r arweiniad i'r ffynonellau data i gael mwy o wybodaeth.