Nifer yr hawlwyr yn y gweithle yng Nghymru a'r DU wedi'i addasu'n dymhorol yn ôl blwyddyn a mesur (ystadegau arbrofol)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r gyfres arbrofol hon yn cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol sydd allan o waith ac mae'n disodli nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith fel y prif ddangosydd o nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau am y rheswm o fod yn ddi-waith yn bennaf. O fis Mai 2013 ymlaen, nid yw'r ffigurau hyn wedi'u llunio fel Ystadegau Gwladol ac maent yn cael eu hystyried yn Ystadegau Arbrofol.Casgliad data a dull cyfrifo
Cyfartaleddau blynyddol yw'r data ac maent wedi'u haddasu ar gyfer natur dymhorol a hefyd i gymryd i ystyriaeth ddiffygion parhad yn y data yn y gorffennol er mwyn bod yn gyson â'r cynnwys cyfredol. Mae'r cyfraddau a roddir yn y set ddata hon yn seiliedigAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1971 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ddata'n cael ei dalgrynnu i'r 5 agosaf ac efallai na fydd yn ychwanegu'n union at nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, a gyhoeddwyd ar Nomis, a nifer y bobl allan o waith sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, oherwydd talgrynnu annibynnol.Teitl
Nifer y bobl sy'n hawlio yn y gweithle (wedi'i haddasu'n dymhorol)Diweddariad diwethaf
1 Chwefror 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Weinyddu'r Ganolfan Byd Gwaith, yr Adran Gwaith a PhensiynauCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau arbrofolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Defnyddir dau fesur safonol o ddiweithdra yn ystadegau swyddogol y DU, sef nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra a mesur diweithdra'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r mesurau'n wahanol ac mae gan y naill a'r llall fanteision ac anfanteision.Mae'r cyntaf yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Gan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu ac felly gellir ei ddadgyfuno i lefelau manylder uchel iawn. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy'n ddi-waith ac nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio.
Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra. Fodd bynnag, gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar sampl ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data ar gyfer Cymru.
Dilynwch y ddolen we i'r arweiniad i'r ffynonellau data i gael mwy o wybodaeth.
Dolenni'r we
www.nomisweb.co.uk;http://gov.wales/statistics-and-research/economic-labour-market-statistics-guide-data-sources-useful-links/