Gellir dod o hyd i wybodaeth am ffynonellau dangosyddion MALlC yn adroddiad technegol MALlC 2014 a MALlC: Canllaw ar gyfer dadansoddi data dangosyddion. Ceir dolenni i'r rhain yn y tab dolenni.
Am fwy o wybodaeth ynglyn ag ansawdd ystadegol gweler Adroddiad Technegol MALlC 2014 (Saesneg yn unig) a chyhoeddiad MALlC 2014 ar y tab Dolenni.
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data sydd yma ar gyfer dangosyddion sylfaenol sy'n bwydo i mewn i fynegai amddifadedd lluosog Cymru (MALlC). MALlC yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ei nod yw nodi'r ardaloedd bach lle ceir crynoadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Diweddarir y Mynegai llawn bob 4 i 5 mlynedd yn unig, ond byddwn yn diweddaru llawer o'r dangosyddion rhwng y Mynegai llawn, gyda rhai yn cael ei diweddaru bob blwyddyn. Nid yw'n bosibl diweddaru bob dangosydd bob blwyddyn a dyna pam efallai gweler rhai celloedd gwag pan fyddwch chi'n dewis gwahanol flynyddoedd.
Mae’r holl ddangosyddion ar gael i lawr i lefel ardal gynnyrch ehangach haen is. Dyma ddaearyddiaeth wedi’i adeiladu o ddata’r Cyfrifiad - ei nod yw amlinellu ardaloedd bach gyda phoblogaeth rhwng 1,000 a 3,000 o bobl. Fodd bynnag, ar y dudalen hon mae’r data ar sail Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae yna amryw o ddulliau ar gyfer y dangosyddion gwahanol. Gweler Adroddiad Technegol MALlC 2014 (Saesneg yn unig) ar y tab Dolenni am fwy o wybodaeth.
Cyfnodau data dan sylw
Mae’r cyfnodau cyfeirio yn amrywio ar gyfer y dangosyddion gwahanol. Gweler MALIC: Canllaw ar gyfer dadansoddi data dangosyddion, ar y tab Dolenni am fwy o wybodaeth.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gweler cyhoeddiad MALlC 2014 ar y tab Dolenni am fwy o wybodaeth ar ddefnyddwyr a defnyddiau a chyd-destun.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Gweler MALIC: Canllaw ar gyfer dadansoddi data dangosyddion ar y tab Dolenni am fwy o wybodaeth ar dalgrynnu a rheoli datgelu.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Roedd rhai diwygiadau bach i'r data cyflogaeth 2014 ym mis Mai 2015 ac i ddata incwm 2014 ym mis Awst 2015.Ym mis Awst 2018 diwygiwyd data 2017 ar Bwysau Geni Isel, am fod camgymeriad yn y data a roddwyd i ni yn wreiddiol gan drydydd parti. Mae'r diwygiad hwn wedi arwain at ostyngiad yn y ganran o bwysau geni isel ar gyfer rhai ardaloedd yn y data ar gyfer 2017.
Allweddeiriau
MALlC 2014; Amddifadedd Lluosog; Amddifadedd; Cynhwysiant Cymdeithasol; Dangosydd; Incwm; Cyflogaeth; Iechyd; Addysg; Mynediad i Wasanaethau; Diogelwch Cymunedol; Yr Amgylchedd Ffisegol; Tai