Dysgwyr unigryw sydd wedi'u cofrestru mewn sefydliadau addysg bellach yn ôl grŵp oedran, dull dysgu a lefel
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Dysgwyr unigryw mewn addysg bellach yng NghymruDiweddariad diwethaf
27 Chwefror 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y dysgwyr sydd wedi ymrestru mewn sefydliadau addysg bellach (AB) yng Nghymru. Mae'r data'n cynnwys darpariaeth dysgu seiliedig ar waith mewn sefydliadau AB yn seiliedig ar aelod consortiwm a dysgu cymunedol awdurdod lleol lle mae yna opsiwn ymrestru ffurfiol gyda sefydliad AB.Mae'r cyfrifiadau dysgwyr wedi'u darparu yn seiliedig ar 'ddysgwr unigryw' sy'n defnyddio'r dynodwr dysgwr unigryw yn y data sylfaenol. Mae hyn yn dileu unrhyw elfen o gyfrif lluosog lle mae dysgwr wedi ymrestru gyda dau ddarparwr neu fwy mewn un flwyddyn academaidd.
Dyma un o ddau dabl sy'n darparu cyfrifiadau yn seiliedig ar 'ddysgwr unigryw'. Mae'r tabl arall, sy'n cynnig gwahanol ddimensiynau ar gyfer dadansoddi'r data, i'w weld trwy ddilyn y ddolen we.
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).
Casgliad data a dull cyfrifo
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2022/23 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2023.Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:Gweinidogion a'r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau yn y Cynulliad
Swyddogion yn Llywodraeth Cymru
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:
Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).Dolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/further-education-work-based-learning-community-learning-statistics/ - Ystadegau am addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: cyhoeddiad blynyddol lle mae'r tabl hwn yn rhan o ddewis digidol gyda gwell rhyngweithedd. Mae data ar gyfer blynyddoedd academaidd 2006/07 - 2011/12 ar gael mewn cyhoeddiadau blaenorol o’r datganiad yma, ac nid oes cynlluniau presennol i ddiweddaru'r tabl hwn i gynnwys data yn flaenorol i 2012/13.https://statscymru.cymru.gov.uk/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and-Work-Based-Learning/Learners/Further-Education/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-domicile-age - Ail adroddiad sydd yn darparu data ar ddysgwyr unigryw wedi’u cofrestru mewn sefydliadau addysg bellach. Fe all niferoedd y dysgwyr yn yr adroddiad hwn eu dadansoddi yn ôl ardal preswyl, ethnigrwydd, prif anhawster dysgu neu statws anabledd.
Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.