Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Niferoedd a chofrestriadau Dysgwyr Cymraeg i Oedolion
None
Academic yearAcademic years run from 1 August of the initial year to 31 July of the following year. [Hidlwyd]
Measure2
CountFor Coleg Gwent, the enrolments count gives the numbers of learning activities. [Hidlo]
PopulationThis dimension allows you to switch between the standard registration and session populations. Any students who leave within two weeks of their start date (or its anniversary) and are on a course of more than two weeks duration are excluded from the standard registration population, but not the session population. Both populations exclude dormant students, incoming visiting and exchange students, and students studying the entire programme outside of the UK. [Hidlo]
[Lleihau]Provider[Hidlo]
-
-
Provider 1
Cliciwch yma i ddidoliDysgwrCliciwch yma i ddidoliYmrestriadau
Poblogaeth gofrestru safonol[Lleihau]Pob darparwrMae cyfrifon dysgwyr wedi\'u seilio ar ddynodwyr dysgwyr y darparwyr eu hunain ac felly bydd y ffigur hwn yn cynnwys rhywfaint o gyfrif lluosog rhwng darparwyr.(r) Mae\'r eitem ddata hon wedi\'i diwygio ers ei chyhoeddi\'n wreiddiol yn StatsCymru.45,430(r) Mae\'r eitem ddata hon wedi\'i diwygio ers ei chyhoeddi\'n wreiddiol yn StatsCymru.71,470
Pob darparwrMae cyfrifon dysgwyr wedi\'u seilio ar ddynodwyr dysgwyr y darparwyr eu hunain ac felly bydd y ffigur hwn yn cynnwys rhywfaint o gyfrif lluosog rhwng darparwyr.Prifysgol de Cymru4,1554,335
Prifysgol Aberystwyth6,1909,090
Prifysgol Bangor16,20030,175
Prifysgol Caerdydd4,8855,390
Prifysgol Abertawe8,59512,515
Coleg Gwent5,4109,970
Poblogaeth y sesiwn[Lleihau]Pob darparwrMae cyfrifon dysgwyr wedi\'u seilio ar ddynodwyr dysgwyr y darparwyr eu hunain ac felly bydd y ffigur hwn yn cynnwys rhywfaint o gyfrif lluosog rhwng darparwyr.(r) Mae\'r eitem ddata hon wedi\'i diwygio ers ei chyhoeddi\'n wreiddiol yn StatsCymru.48,440(r) Mae\'r eitem ddata hon wedi\'i diwygio ers ei chyhoeddi\'n wreiddiol yn StatsCymru.76,665
Pob darparwrMae cyfrifon dysgwyr wedi\'u seilio ar ddynodwyr dysgwyr y darparwyr eu hunain ac felly bydd y ffigur hwn yn cynnwys rhywfaint o gyfrif lluosog rhwng darparwyr.Prifysgol de Cymru4,8755,750
Prifysgol Aberystwyth6,5309,630
Prifysgol Bangor16,51030,650
Prifysgol Caerdydd6,1657,195
Prifysgol Abertawe8,96513,465
Coleg Gwent5,4109,970

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y dysgwyr Cymraeg i Oedolion a nifer yr ymrestriadau mewn Canolfannau Cymraeg i Oedolion. Mae'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion yn cynnwys pum sefydliad addysg uwch ac un sefydliad addysg bellach (Coleg Gwent).

Mae'r cyfrifiad dysgwyr ar gyfer Coleg Gwent yn seiliedig ar ddynodwyr dysgwyr unigryw ac mae ei gyfrifiad ymrestru yn sôn am weithgareddau dysgu. Defnyddir y math o raglen ddysgu (LP17) i wahanu rhaglenni Cymraeg i Oedolion oddi wrth data arall Coleg Gwent. Daeth y data ar gyfer y pum sefydliad addysg uwch o Gofnod Myfyrwyr HESA (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch).

Mae'r boblogaeth gofrestru safonol yn cyfrif cofrestriadau unwaith ar gyfer pob blwyddyn ar raglen astudio, ac yn hepgor myfyrwyr segur, myfyrwyr sy'n ymweld ac ar gyfnewid a myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen gyfan y tu allan i'r DU. Mae unrhyw fyfyrwyr sy'n gadael o fewn pythefnos i'r dyddiad cychwyn (neu ben-blwydd y dyddiad hwnnw) ac sydd ar gwrs sy'n para mwy na phythefnos yn cael eu hepgor hefyd, er bod y dysgwyr hyn yn cael eu cynnwys yn ffigurau poblogaeth y sesiwn.

Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r data ar gyfer Coleg Gwent yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2012/13 i rym tua diwedd mis Chwefror 2014.

Mae'r data ar gyfer y pum sefydliad addysg uwch yn dod o Gofnod Myfyrwyr HESA (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch).

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:

Gweinidogion a'r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau yn y Cynulliad
Swyddogion yn Llywodraeth Cymru
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:

Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru

Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Wedi iddynt gael eu cyhoeddi, daethpwyd ar draws gwall yn y cyfansymiau ar gyfer 2015/16. Mae’r gwall hwn wedi ei gywiro ac mae’r gwerthoedd diwygiedig i gyd wedi eu nodi’n glir.

Teitl

Dysgwyr ac ymrestriadau Cymraeg i Oedolion

Diweddariad diwethaf

Mai 2017 Mai 2017

Diweddariad nesaf

Mai 2018 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 2

Cofnod Myfyrwyr Addysg Uwch, yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Cyswllt ebost

ystadegau.addysgol16@cymru.gsi.gov.uk

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg yn unig

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.

Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru a data HESA sy'n sail i'r tabl hwn yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.

Allweddeiriau

Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod LLWR Bellach Ôl Addysg AB 16 P16 Cymraeg Cyfrol Flynyddol i Oedolion CiO

Dolenni'r we

http://gov.wales/statistics-and-research/further-education-work-based-learning-community-learning-statistics/ - Ystadegau am addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: cyhoeddiad blynyddol lle mae'r tabl hwn yn rhan o ddewis digidol gyda gwell rhyngweithedd. Mae data ar gyfer blynyddoedd academaidd 2006/07 - 2011/12 ar gael mewn cyhoeddiadau blaenorol o’r datganiad yma, ac nid oes cynlluniau presennol i ddiweddaru'r tabl hwn i gynnwys data yn flaenorol i 2012/13.