
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Dysgwyr y darparwr mewn addysg uwch neu ddysgu seiliedig ar waith yng NghymruDiweddariad diwethaf
27 Chwefror 2025Diweddariad nesaf
Chwefror 2026Sefydliad cyhoeddi
MedrFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
Statistics@medr.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y dysgwyr ôl-16 (ac eithrio'r rhai sydd wedi ymrestru mewn sefydliadau addysg uwch a dosbarthiadau chwech mewn ysgolion) sy'n mynychu sefydliadau yng Nghymru.Mae cyfrifiadau dysgwyr yn seiliedig ar ddynodwyr dysgwyr y darparwyr eu hunain, felly bydd cyfanswm y dysgwyr ar draws pob darparwr yn cynnwys rhai cyfrifiadau lluosog rhwng darparwyr.
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).
Casgliad data a dull cyfrifo
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2023/24 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2024.Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Medr a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:Gweinidogion a'r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau yn y Cynulliad
Swyddogion yn Llywodraeth Cymru
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:
Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).Allweddeiriau
Dadansoddi'r Rhwydwaith Dysgu Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod LLWR Pellach Dysgu WBL yn y Gymuned AB Addysg ACL Dysgu LACL Gwaith Ôl-16 P16Ansawdd ystadegol
Cafodd ystadegau dysgu oedolion eu diwygio ar gyfer 2023/24 oherwydd problemau ansawdd data. Roedd un awdurdod lleol wedi bod yn cyflwyno data dysgu i Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) na ddylid bod wedi'u cynnwys. Mae'r awdurdod lleol wedi mynd ati’n fanwl i ganfod y data cywir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ac rydym wedi dileu'r data anghywir o'n hystadegau. Datgelodd yr ymchwiliad fod y problemau ansawdd data hyn hefyd yn bodoli mewn blynyddoedd blaenorol, ond nid yw'r blynyddoedd hynny wedi cael eu cywiro.Mae'n debygol y bydd ystadegau Awdurdodau Lleol ar gyfer Dysgu yn y Gymuned ar gyfer yr holl flynyddoedd cyn 2023/24 wedi'u gorgyfrif. O ganlyniad i hynny, ni ellir cymharu ffigurau o 2023/24 sy'n cynnwys data Awdurdodau Lleol ar gyfer Dysgu yn y Gymuned â blynyddoedd blaenorol.
Gweler yr adran ar ansawdd a gwybodaeth yn yr adroddiad Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024 – Medr am ragor o wybodaeth.
https://www.medr.cymru/cy/Newyddion/sta-medr-06-2025-addysg-bellach-dysgu-seiliedig-ar-waith-a-dysgu-cymunedol-awst-2023-i-orffennaf-2024/
Mae ystadegwyr yn Medr yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn i dablau gael eu cyhoeddi. Mae data LLWR sy'n sail i'r tabl hwn yn ddata terfynol at ddibenion heblaw dibenion cyllid