
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Gweithgareddau dysgu mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yng NghymruDiweddariad diwethaf
27 Chwefror 2025Diweddariad nesaf
Chwefror 2026Sefydliad cyhoeddi
MedrFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
Statistics@medr.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Cafodd ystadegau dysgu oedolion eu diwygio ar gyfer 2023/24 oherwydd problemau ansawdd data. Roedd un awdurdod lleol wedi bod yn cyflwyno data dysgu i Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) na ddylid bod wedi'u cynnwys. Mae'r awdurdod lleol wedi mynd ati’n fanwl i ganfod y data cywir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ac rydym wedi dileu'r data anghywir o'n hystadegau. Datgelodd yr ymchwiliad fod y problemau ansawdd data hyn hefyd yn bodoli mewn blynyddoedd blaenorol, ond nid yw'r blynyddoedd hynny wedi cael eu cywiro.Mae'n debygol y bydd ystadegau Awdurdodau Lleol ar gyfer Dysgu yn y Gymuned ar gyfer yr holl flynyddoedd cyn 2023/24 wedi'u gorgyfrif. O ganlyniad i hynny, ni ellir cymharu ffigurau o 2023/24 sy'n cynnwys data Awdurdodau Lleol ar gyfer Dysgu yn y Gymuned â blynyddoedd blaenorol.
Gweler yr adran ar ansawdd a gwybodaeth yn yr adroddiad Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024 – Medr am ragor o wybodaeth.
Mae ystadegwyr yn Medr yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn i dablau gael eu cyhoeddi. Mae data LLWR sy'n sail i'r tabl hwn yn ddata terfynol at ddibenion heblaw dibenion cyllid
O 1 Awst 2017 ymlaen, nid yw gwybodaeth sy'n ymwneud â darpariaeth Cymraeg i Oedolion mewn sefydliadau Addysg Bellach yn cael ei chasglu drwy'r LLWR mwyach.
O 1 Awst 2017 ymlaen, ni chasglir gwybodaeth sy'n ymwneud â gweithgareddau dysgu nad ydynt wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru bellach drwy'r LLWR
Allweddeiriau
Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod LLWR Addysg Bellach AB Dysgu cymunedol awdurdodau lleol Dysgu seiliedig ar waith DSW Addysg ôl-16Disgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y gweithgareddau dysgu a wneir gan ddysgwyr ôl-16 (ac eithrio'r rhai sydd wedi ymrestru mewn sefydliadau addysg uwch a dosbarthiadau chwech ysgolion) sy'n mynychu sefydliadau yng Nghymru.Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).
Casgliad data a dull cyfrifo
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2023/24 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2024.Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Medr a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:Gweinidogion a'r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau yn y Cynulliad
Swyddogion yn Llywodraeth Cymru
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:
Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.