

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd fesul chwarter, blwyddyn ac prif AADDiweddariad diwethaf
Tachwedd 2020Diweddariad nesaf
Chwefror 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y bobl sy'n dechrau rhaglenni dysgu mewn dysgu seiliedig ar waith (WBL) yng Nghymru. Mae'r data'n cynnwys WBL a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach a WBL a ddarperir gan ddarparwyr hyfforddiant eraill.Data dros dro yw data Ch1 2019/20 ac fe'u cyfrifwyd gan ddefnyddio data terfynol mis 08 o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Cafodd y data terfynol eu cynhyrchu ar 19 Mawrth 2020.
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2016/17 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2017.
Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.