Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd fesul chwarter a blwyddyn
None
|
Metadata
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Allweddeiriau
Dysgu Seiliedig ar Waith WBL Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod LLWR Prentisiaethau Prentisiaeth Ôl-16 P16Teitl
Nifer y bobl sy'n dechrau rhaglenni dysgu mewn dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru chwarterDiweddariad diwethaf
30 Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Tachwedd 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y bobl sy'n dechrau rhaglenni dysgu mewn dysgu seiliedig ar waith (WBL) yng Nghymru. Mae'r data'n cynnwys WBL a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach a WBL a ddarperir gan ddarparwyr hyfforddiant eraill.Cyfrifir data Ch2 2023/24 gan ddefnyddio rhew mis 11 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Cynhyrchwyd y rhew hwn ar 20 Mehefin 2024.
Ar 1 Awst 2021, rhoddwyd trefniadau newydd ar waith o ran contractau dysgu seiliedig ar waith. Yn sgil hyn, trosglwyddwyd tua 4,800 o brentisiaid i ddarparwyr newydd, a chrëwyd cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Fel rheol, caiff cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni, sy’n cael eu creu yn sgil trosglwyddo dysgwyr, eu cynnwys yn yr ystadegau ar niferoedd sy’n dechrau prentisiaethau, ac eithrio’r mesur targed. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, nid ydym wedi cynnwys y cofnodion hyn gan fod cymaint o ddysgwyr wedi trosglwyddo, ac y byddai’r ystadegau wedi creu darlun camarweiniol o’r niferoedd a ddechreuodd brentisiaethau yn chwarter 1 2021/22 pe baem wedi’u cynnwys.
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2016/17 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2017.
Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.