
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Ar ôl cyrraedd y targed ar gyfer tymor y Senedd flaenorol, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran. Mae hyn yn cael ei asesu drwy ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a throsglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth.Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y bobl sy'n dechrau rhaglenni dysgu mewn dysgu seiliedig ar waith (WBL) yng Nghymru. Mae'r data'n cynnwys WBL a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach a WBL a ddarperir gan ddarparwyr hyfforddiant eraill.
Nid yw gradd-brentisiaethau, sydd bellach yn cael eu cynnwys yn y mesur targed presennol, wedi'u cynnwys yn y ffigurau hyn. Darperir rhagor o wybodaeth am hyn drwy’r tab ar gyfer y 'targed presennol' ar y dangosfwrdd. Daw'r data o'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Cyfrifir data Ch2 2024/25 gan ddefnyddio rhew mis 9 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Cynhyrchwyd y rhew hwn ar 24 Ebrill 2025.
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2016/17 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2017.
Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).Ansawdd ystadegol
Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.