
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
[Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y dysgwyr sydd wedi ymrestru mewn dysgu seiliedig ar waith (WBL) yng Nghymru.]Mae'r cyfrifiadau dysgwyr wedi'u darparu yn seiliedig ar 'ddysgwr unigryw' sy'n defnyddio'r dynodwr dysgwr unigryw yn y data sylfaenol. Mae hyn yn dileu unrhyw elfen o gyfrif lluosog lle mae dysgwr wedi ymrestru gyda dau ddarparwr neu fwy mewn un flwyddyn academaidd.
Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).
Casgliad data a dull cyfrifo
O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2023/24 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2024.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r data yn y tabl hwn yn cael ei ddefnyddio yn Medr a thu hwnt i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddiad pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r materion allweddol:Gweinidogion a'r Gwasanaeth Ymchwil Aelodau yn y Cynulliad
Swyddogion yn Llywodraeth Cymru
Adrannau eraill y llywodraeth
Sefydliadau Addysg Bellach, darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac awdurdodau lleol
Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Myfyrwyr, ymchwilwyr ac academyddion
Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:
Ymchwil a chefndir cyffredinol
Cynhwysiant mewn adroddiadau a briffiau
Cyngor i Weinidogion
Llywio a gwerthuso'r broses o lunio polisïau addysg yng Nghymru
Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael ei ddefnyddio fel sail i adroddiadau perfformiad a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu, i gyfrifo ffigurau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ac i fodelu cyllid myfyrwyr.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).Teitl
Dysgwyr unigryw mewn dysgu seiliedig ar waith yng NghymruDiweddariad diwethaf
27 Chwefror 2025Diweddariad nesaf
Chwefror 2026Sefydliad cyhoeddi
MedrFfynhonnell 1
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
Statistics@medr.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Dysgu Seiliedig ar Waith WBL Dysgu Gydol Oes Cymru Cofnod LLWR Prentisiaethau Prentisiaeth Ôl-16 P16Dolenni'r we
https://www.medr.cymru/en/data-and-analysis/ - Ystadegau am addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: cyhoeddiad blynyddol lle mae'r tabl hwn yn rhan o ddewis digidol gyda gwell rhyngweithedd. Mae data ar gyfer blynyddoedd academaidd 2006/07 - 2011/12 ar gael mewn cyhoeddiadau blaenorol o’r datganiad yma, ac nid oes cynlluniau presennol i ddiweddaru'r tabl hwn i gynnwys data yn flaenorol i 2012/13.Ansawdd ystadegol
Mewn fersiynau cynharach o'r tabl hwn, roedd data amddifadedd ar gyfer 2018/19 a 2019/20 yn anghywir yn seiliedig ar barth incwm Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) ac nid y prif fynegrif fel y disgrifiwyd. Mae hyn bellach wedi'i ddiwygio fel eu bod yn seiliedig ar y prif fynegai.Mae ystadegwyr yn Medr yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn i dablau gael eu cyhoeddi. Mae data LLWR sy'n sail i'r tabl hwn yn ddata terfynol at ddibenion heblaw dibenion cyllid.