Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Ymgeisiadau a chanlyniadau lefel A (disgyblion oed 17 yn unig) fesul grŵp pwnc

Mae’r tabl yma yn dangos data a gyhoeddwyd yn natganiad blynyddol Llywodraeth Cymru sef ‘Canlyniadau Arholiadau’. Y mae’n darparu gwybodaeth ar nifer y cofrestriadau (entries) lefel A mewn i bob grŵp pwnc, a’r canran o’r cofrestriadau yma a gyflawnodd pob gradd lefel A. Gall blynyddoedd hanesyddol gael eu dewis o’r dewislen blwyddyn. Am fwy o wybodaeth gweler y dolenni gwe.

None

Metadata

Teitl

Ceisiadau a chanlyniadau Safon Uwch (disgyblion 17 oed yn unig) yn ôl grwp pwnc

Diweddariad diwethaf

Rhagfyr 2023 Rhagfyr 2023

Diweddariad nesaf

Rhagfyr 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cronfa Ddata Arholiadau Cymru, Llywodraeth Cymru (drwy Sefydliadau Dyfarnu a chorff Casglu data o dan gontract)

Ffynhonnell 2

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r tabl hwn yn cwmpasu data a gyhoeddir yng nghyhoeddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, "Canlyniadau Arholiadau". Mae'n darparu gwybodaeth am nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch ym mhob grwp pwnc a chanran yr ymgeiswyr sy'n ennill gradd Safon Uwch. I gael mwy o wybodaeth, gweler y dolenni gwe.

Noder bod y diffiniad o'r tabl hwn wedi newid eleni. Mae'r tabl hwn bellach yn cynnwys ymgeiswyr yn y blynyddoedd blaenorol, ac mae arholiadau wedi'u diystyru wedi'u hepgor. Y rheswm am hyn yw bod y tabl yn cyfateb i weddill y dangosyddion perfformiad allweddol. Dylid trin y ffigurau hyn yn ofalus - mae'n bosibl y bydd disgyblion wedi cofrestru ar gyfer mwy nag un arholiad mewn nifer fach o grwpiau pwnc.


Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Dangosir canrannau fel rhifau cyfan ac maent wedi'u talgrynnu i 0 lle degol.

Allweddeiriau

Safon Uwch; CA5; Cyfnod Allweddol 5;

Ansawdd ystadegol

I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran nodiadau yn y cyhoeddiad Canlyniadau Arholiadau (gweler y dolenni gwe)

Dolenni'r we

Canlyniadau Arholiadau: https://llyw.cymru/canlyniadau-arholiadau