Cyrhaeddiad arholiadau disgyblion 17 oed fesul rhyw
Mae’r tabl yma yn dangos data a gyhoeddwyd yn nhabl 3 o ddatganiad blynyddol Llywodraeth Cymru sef ‘Canlyniadau Arholiadau’. Y mae’n darparu gwybodaeth ar ganran y disgyblion 17 oed a gyflawnodd y dangosyddion Cyfnod Allweddol 5. Am fwy o wybodaeth gweler y dolenni gwe.
Mae'r tabl yn dangos mesurau perfformiad ar gyfer disgyblion 17 oed yng Nghymru. Gallwch chi weld y data yn ôl blwyddyn, rhyw (bechgyn, merched, pawb), awdurdod lleol a chonsortia rhanbarthol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r ffigurau yn y tabl hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir yn flynyddol fel rhan o gasgliad Cronfa Ddata Arholiadau Cymru (WED) a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae data arholiadau yn cael ei gasglu o sefydliadau dyfarnu ac wedi'i wirio gan ysgolion.
Mae'r data a ddangosir yn cael ei gasglu'n flynyddol ar ôl cwblhau'r arholiadau diwedd blwyddyn. Dangosir y data o 1996 ymlaen ac mae'n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i ddangos canlyniadau'r flwyddyn academaidd ddiweddaraf. Mae pob blwyddyn yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd, er enghraifft o 1 Medi 2014 tan 31 Awst 2015.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Os yn briodol, mae rhifau wedi'u talgrynnu i 1 pwynt degol