

None
|
Metadata
Disgrifiad cyffredinol
Rhaid i bob dysgwr ym mlwyddyn olaf y Cyfnod Sylfaen gael eu hasesu drwy asesiadau athrawon.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n cael eu cynnwys mewn taenlen electronig a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi – system ar-lein ddiogel i drosglwyddo data a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r broses, ceir nifer o gamau awtomatig i ddilysu a gwirio'r synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel.Rhoddwyd * yn lle nifer y cohort os oes llai na 5 ond mwy na sero o ddisgyblion mewn categori.
Rhoddwyd * yn lle canrannau os oes llai na 50 ond mwy na sero o ddisgyblion mewn cohort.
Pwrpas hyn yw sicrhau bod defnyddwyr yn ymwybodol mai niferoedd bach iawn sydd mewn rhai categorïau a dangos y dylid bod yn ochelgar wrth gymharu rhwng data cyrhaeddiad ar gyfer categorïau o'r fath.