Neidio i'r cynnwys

Cyfnod sylfaen

Mae'r Cyfnod Sylfaen wedi dwyn ynghyd yr hyn a elwir yn flaenorol yn Flynyddoedd cynnar (plant rhwng 3 a 5 oed) a Chyfnod Allweddol 1 (plant rhwng 5 a 7 oed) y Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn creu un cam addysg i blant rhwng tair a saith oed. 2012 oedd y flwyddyn gyntaf pan wnaeth y Cyfnod Sylfaen ddisodli Cyfnod Allweddol 1 yn llawn.

Rhaid i bob dysgwr yn ei flwyddyn olaf o'r Cyfnod Sylfaen gael ei asesu drwy asesiadau'r athro. Disgwylir yn gyffredinol i'r rhan fwyaf o blant 7 oed gyflawni canlyniad 5 ym mhob maes dysgu.

Ni chyhoeddir data asesiadau athrawon ar lefel ysgol, awdurdod lleol na chonsortia o 2018 ymlaen, yn dilyn ymgynghoriad ar gyhoeddi’r data hwn (gweler dolen ‘Rheoliadau Addysg (Diwygiadau’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018’).