Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth. https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil
Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol ar Lefel Disgyblion Ysgol (PLASC) a ffurflenni STATS 1 a gyflenwir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r data yn cael eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol.