Cyfrifiad ysgolion
Cynhelir y cyfrifiad ysgolion ym mis Ionawr bob blwyddyn ac mae pob ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan ynddo. Mae pob ysgol yn rhoi gwybodaeth am yr ysgol, ei disgyblion a'i staff. Cyn 2004, roedd y cyfrifiad ar ffurf papur ac yn rhoi golwg lefel ysgol o addysg yng Nghymru. Yn y flwyddyn honno, cyflwynwyd dull electronig o gasglu data, sef Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a disodlodd y ffurflen i bawb heblaw ysgolion Annibynnol.