Neidio i'r cynnwys

Amseroedd aros llawn ar gyfer cleifion mewnol ac allanol

Cafodd amserau aros cleifion mewnol a chleifion allanol y GIG eu cyhoeddi rhwng 1997 a mis Mawrth 2010 a’u defnyddio i fesur amserau aros y cyfnod cyntaf fel claf allanol ac fel claf mewnol ar lwybr triniaeth y claf. Ers 2009, mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi data misol am Amserau rhwng Atgyfeiriad a Thriniaeth, sy’n mesur cyfanswm yr amser aros rhwng atgyfeiriad y meddyg teulu a’r driniaeth, a hon bellach yw prif ffynhonnell yr wybodaeth am amserau aros y GIG.