Neidio i'r cynnwys

Gwasanaeth deintyddol cymunedol

Mae'r gwasanaeth hwn, a ddarperir gan Fyrddau Iechyd Lleol, yn darparu triniaeth i gleifion sydd wedi cael trafferth cael gafael ar driniaeth oddi wrth y gwasanaeth deintyddol cyffredinol, neu cleifion y mae dystiolaeth na fyddent wedi ceisio triniaeth oddi wrth y gwasanaeth deintyddol cyffredinol fel arall. Mae hyn yn cynnwys plant a'r cleifion hynny sydd ag anghenion arbennig. I weld ystadegau ar y gwasanaethau a ddarperir gan 'ddeintyddion ar y stryd fawr', gweler 'Gwasnaethau deintyddol cyffredinol'.