Disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd yn ôl blwyddyn, Cyfrwng Cymraeg/Saesneg a math o ddarpariaeth (hyd at 2023/24)
Mae data Cyfrifiad Ysgolion yn cael eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol.
Er bod y rhan fwyaf o'r prosesau arferol dilysu data’r cyfrifiad Ysgolion 2020 wedi digwydd, oherwydd y pandemig y coronafeirws, nid yw’r data wedi mynd trwy'r broses ddilysu derfynol arferol. Fel rhan o Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru, dychwelir y data fel arfer i awdurdodau lleol i'w ddilysu'n derfynol. Fel arfer, ni fydd niferoedd cyffredinol y disgyblion ac athrawon yn newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r newid mwyaf tebygol yn nodweddion y disgyblion eu hunain e.e. hawl i brydau ysgol am ddim. Felly dylai defnyddwyr fod yn fwy gofalus wrth gymharu data ar nodweddion disgyblion a staff dros amser, yn enwedig gyda charfannau bach.
Disgrifiad cyffredinol
Gweler eitemau eraill
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol ar Lefel Disgyblion Ysgol (PLASC) a ffurflenni STATS 1 a gyflenwir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r data yn cael eu hawdurdodi gan benaethiaid a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol.
Disgyblion gydag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mewn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd yn ôl blwyddyn, Cyfrwng Cymraeg/Saesneg a math o ddarpariaeth AAA