Dangosyddion Strategol Cenedlaethol o berfformiad awdurdodau lleol
Mae Dangosyddion Strategol Cenedlaethol yn cael eu defnyddio i fesur perfformiad yr awdurdodau lleol ar y lefel genedlaethol. Mae’n ofynnol o dan y gyfraith i awdurdodau lleol Cymru gasglu a chyhoeddi data ar bob un o’r dangosyddion, ac mae sampl o’r dangosyddion yn cael eu harchwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae pob dangosydd yn gysylltiedig ag un neu ragor o flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru, ac maen nhw wedi’u dewis am eu bod yn canolbwyntio ar ddeilliannau.