Neidio i'r cynnwys

Y Gymraeg

Gwybodaeth ystadegol am sgiliau Cymraeg pobl yng Nghymru a’u defnydd o’r iaith.

Y Cyfrifiad yw’r ffynhonnell wybodaeth allweddol am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth yn fwy rheolaidd am allu ymatebwyr i siarad Cymraeg. Fodd bynnag, yn hanesyddol, mae amcangyfrifon arolygon o allu pobl yn y Gymraeg yn uwch na’r rhai a gynhyrchir gan y Cyfrifiad. Ceir gwybodaeth fanylach am ddefnydd o’r iaith, mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, o Arolygon Defnydd Iaith.

Ceir nifer o setiau data eraill, sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â’r Gymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun addysg. Gellir gweld y ffynonellau data hyn drwy'r ddewislen ar y chwith.