Amcangyfrifon stoc anheddau
Gwybodaeth am y nifer amcangyfrifedig o anheddau yng Nghymru wedi'i dadansoddi yn ôl blwyddyn, math o ddaliadaeth ac awdurdod unedol. Mae'r amcangyfrifon yn ymwneud â diwedd pob blwyddyn ariannol, hy mae amcangyfrifon ar gyfer 2011-12 yn ymwneud â 31 Mawrth 2012. Mae'r amcangyfrifon o stoc annedd yn ôl daliadaeth yn cael eu hamcangyfrif o wybodaeth Cyfrifiad 2011 a gwybodaeth o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, ffurflenni oddi wrth awdurdodau lleol a ffurflenni oddi wrth landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL). Diwygiwyd amcangyfrifon stoc annedd rhwng cyfrifiadau 2001 a 2011 i gymryd i ystyriaeth cyfrif Cyfrifiad 2011 o anheddau. Mae'r rhaniad rhwng daliadaeth perchen-feddiannu ac anheddau rhentu preifat wedi cael ei gyfrifo ar gyfer 2000-01 i 2002-03 gan ddefnyddio data o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru (ALlLlC) ac ar gyfer 2003-04 ymlaen gan ddefnyddio data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS). Cyn hyn cyfrifwyd y rhaniad daliadaeth gan ddefnyddio data o'r Arolwg o'r Llafurlu