Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy’n ffurfio rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010), mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gyhoeddi data ar y gweithlu yn flynyddol, ac i’w gyflwyno ar gyfer pob un o’r naw nodwedd warchodedig.
Er mwyn gwneud y wybodaeth yma’n haws i’w ganfod, ac i hybu atebolrwydd a thryloywder, mae’r data yma yn awr wedi’u cyhoeddi ar ffurf data agored. Cyflwynir data Llywodraeth Cymru, sydd hefyd ar gael yn ei Hadroddiad Cydraddoldeb Cyflogwr, ar y dudalen hon, ynghyd â dolenni allanol i ddata agored a gyhoeddwyd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru a restrwyd dan Atodlen 19 y Ddeddf. Mae dolen i Adroddiad Cydraddoldeb Cyflogwr Llywodraeth Cymru hefyd ar gael yn yr adran ddolenni.
Noder mai dim ond y dolenni hynny sydd wedi cael eu hanfon atom gan gyrff cyhoeddus a restrwyd ar y dudalen hon. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddata cyrff cyhoeddus, nac am unrhyw gynnwys a gyhoeddir ar wefannau allanol.