Anweithgarwch economaidd
Anweithgarwch Economaidd yw’r bobl hynny nad ydyn nhw mewn cyflogaeth neu sy’n ddi-waith yn ôl diffiniad yr ILO, ac mae dwy ffynhonnell data yn y ffolder yma: Arolwg y Gweithlu (LFS) a’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS). Mae’r LFS yn cael ei gyhoeddi bob mis ar gyfer gwledydd y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr ac mae’n cynnwys amcangyfrifon chwarterol. Mae’r APS yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ar gyfer gwledydd y Deyrnas Unedig, rhanbarthau Lloegr ac ardaloedd yng Nghymru ac mae’n cynnwys amcangyfrifon blynyddol.