Dadansoddiad o’r rhwydwaith dysgu (data etifeddol)
Mae’r tablau hyn yn cyd-fynd â’r Dadansoddiad o’r Rhwydwaith Dysgu, y daethpwyd ag ef i ben ar ôl rhifyn Awst 2013 (a oedd yn ymwneud â’r blynyddoedd hyd at a chan gynnwys 2011/12). Roedd y rhifyn hwn yn cynnwys manylion pob dysgwr ôl-16 a oedd yn astudio mewn sefydliadau addysg bellach ac yn lleoliadau dysgu cymunedol awdurdodau lleol, mewn chweched dosbarth a chyda darparwyr hyfforddiant eraill yng Nghymru, yn ogystal a dysgwyr o Gymru a oedd yn astudio mewn sefydliadau tebyg yn Lloegr.