Neidio i'r cynnwys

Absenoldeb

Absenoldeb o ysgolion cynradd: Mae'r data yn ymwneud ag absenoldeb disgyblion oedran ysgol gorfodol (5-15 oed) o ysgolion cynradd a gynhelir ac absenoldeb disgyblion 5-10 oed o ysgolion arbennig ac annibynnol yng Nghymru. Mae'r data yn ymwneud â'r flwyddyn academaidd gyfan. Mae cyfanswm awdurdodau lleol yn cynnwys ysgolion cynradd ac arbennig a gynhelir, tra bod cyfanswm Cymru yn cynnwys ysgolion cynradd, arbennig ac annibynnol a gynhelir.

Absenoldeb o ysgolion uwchradd: Mae'r data yn ymwneud ag absenoldeb disgyblion oedran ysgol gorfodol (5-15 oed) o ysgolion cynradd a gynhelir ac absenoldeb disgyblion 11-15 oed o ysgolion arbennig ac annibynnol yng Nghymru. Mae'r data yn ymwneud â'r cyfnod o ddechrau'r flwyddyn academaidd i ŵyl y banc olaf ym mis Mai. Mae cyfanswm awdurdodau lleol yn cynnwys ysgolion uwchradd ac arbennig a gynhelir, tra bod cyfanswm Cymru yn cynnwys ysgolion uwchradd, arbennig ac annibynnol a gynhelir.