Neidio i'r cynnwys

Gwaharddiadau

Mae’r ffordd y mae data ar waharddiadau yn cael ei gasglu wedi newid. Seiliwyd y tablau yma ar ddata a gasglwyd gan ddefnyddio’r hen ddull, felly ni fyddant yn cael eu diweddaru bellach. Cyhoeddir tablau ar ddata waharddiadau ar sail y dull newydd cyn hir.

Mae'r data yn ymwneud â gwahardd disgyblion o bob oedran yn barhaol ac am gyfnod penodol o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir yng Nghymru. Gall pob disgybl unigol gael ei wahardd fwy nag unwaith. Mae hyn ond yn cynnwys gwaharddiadau o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol, o gymharu â nifer y preswylwyr a waherddir sy'n mynychu ysgolion mewn awdurdodau lleol eraill. Mae gwaharddiadau parhaol ond yn cynnwys y rhai sydd wedi'u cynnal gan Bwyllgor Disgyblu Disgyblion y Corff Llywodraethu. Rhoddir un prif reswm ar gyfer pob achos o wahardd.