Neidio i'r cynnwys

Addysg

Mae’r data gwariant ar addysg yn cynnwys ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig gan gynnwys costau athrawon, cludiant rhwng y cartref a’r ysgol a chynnal a chadw ysgolion. Mae’r gwariant ar addysg hefyd yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i’r ysgol megis gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau cymunedol ac addysg bellach. Mae data ar y symiau wedi’u cyllidebu a’r alldro ar gael.