Neidio i'r cynnwys

Cyfnod Allweddol 1

2011 oedd y flwyddyn olaf i ddata am ganlyniadau Cyfnod Allweddol 1 fod ar gael ers i'r Cyfnod Sylfaen ei ddisodli a chafodd ei weithredu'n llawn am y tro cyntaf yn y flwyddyn academaidd 2011/12. Roedd angen i bob dysgwr yn ei flwyddyn olaf o Gyfnod Allweddol 1 gael ei asesu drwy asesiadau'r athro. Disgwyliwyd yn gyffredinol y byddai'r rhan fwyaf o blant 7 oed yn cyrraedd lefel 2 ym mhob pwnc.Mae pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru wedi'u rhannu'n ddau gategori, sef pynciau craidd a phynciau di-graidd. Ar gyfer Cyfnod Allweddol 1, caiff data ei gyflwyno ar gyfer y pynciau craidd: Cymraeg iaith gyntaf, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.