Arholiadau 1974 i 1995
Mae canlyniadau disgyblion rhwng 15 a 17 oed bob amser wedi bod yn ddangosydd perfformiad i ysgolion. Cyflwynwyd y TAG (Tystysgrif Addysg Gyffredinol) yn 1951 ac roedd dwy ran iddi, sef y Lefel O (a safwyd fel arfer pan oedd y disgybl yn 15 oed ar ddechrau'r flwyddyn) a Safon Uwch (a safwyd fel arfer pan oedd y disgybl yn 17 oed ar ddechrau'r flwyddyn). Yn 1965, cafodd y TAU (Tystysgrif Addysg Uwchradd) ei chyflwyno hefyd, a oedd yn darparu cymhwyster amgen i'r sawl nad oedd yn sefyll y Lefel O. Cafodd y ddwy ei disodli gan y TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwch) yn 1988 sydd yn dal ar gael heddiw. I ddisgyblion 17 oed, cyflwynwyd y Safon UG yn 1989 a oedd yr un mor anodd â Safon Uwch ond gyda hanner y cynnwys.