Neidio i'r cynnwys

Cyfnod Allweddol 3 - pynciau di-graidd

Rhaid i bob dysgwr yn ei flwyddyn olaf o Gyfnod Allweddol 3 gael ei asesu drwy asesiadau'r athro. Disgwylir yn gyffredinol i'r rhan fwyaf o blant 14 oed gyrraedd lefel 5 ym mhob pwnc. Mae pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnodau Allweddol 2 a 3) yng Nghymru wedi'u rhannu'n ddau gategori, sef pynciau craidd a phynciau di-graidd. Ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3, y pynciau di-graidd yw celf a dylunio, dylunio a thechnoleg, daearyddiaeth, hanes, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, iaith dramor fodern, cerddoriaeth, addysg gorfforol a Chymraeg ail iaith.

Ni chyhoeddir data asesiadau athrawon ar lefel ysgol, awdurdod lleol na chonsortia o 2018 ymlaen, yn dilyn ymgynghoriad ar gyhoeddi’r data hwn (gweler dolen ‘Rheoliadau Addysg (Diwygiadau’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018’).