Cyfnod Allweddol 4
Mae'r holl ganlyniadau ar gyfer disgyblion 15 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd (ar ddiwedd addysg orfodol) wedi'u casglu o sefydliadau dyfarnu ar gyfer yr holl ysgolion yng Nghymru ac wedi'u dadansoddi fel mesur perfformiad. Yna, mae ysgolion yn cael cyfle i wirio'r wybodaeth hon. Hyd at 2005/06, mae'r ystadegau ond yn cynnwys cyrsiau TGAU, cyrsiau byr TGAU, GNVQs ac NVQs. O 2006/07, mae'r ystadegau'n cynnwys pob cymhwyster a gymeradwyir i'w ddefnyddio â disgyblion cyn 16 oed yng Nghymru.